Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Ionawr 2025
Amser:
09.04 -
09.19
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan AS Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.00pm.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai angen egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai hyn yn cael ei gynnal ar ôl y Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diwygio Diwylliant a
Llywodraethiant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub (45
munud) Tynnwyd yn
ôl
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025
·
Dadl: Mesur Teithio gan Ddysgwyr
(60 munud) Tynnwyd yn
ôl
Dywedodd y Trefnydd y bydd y ddwy eitem yn cael eu haildrefnu yn ddiweddarach.
Gofynnodd Heledd Fychan i'r Llywodraeth ystyried amserlennu datganiadau llafar ar: ymchwiliad diweddar y BBC i grwpiau asgell dde eithafol yng Nghymru; goblygiadau diwygiadau pensiwn i Gymru; a chynnydd tuag at gyrraedd targedau ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG erbyn gwanwyn 2025. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried pob cais gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol.
Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Pedwerydd adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
Dydd Mercher 19 Chwefror 2025 –
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Plant sydd ar yr ymylon (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 5 Chwefror:
Sioned Williams AS
NNDM8724
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwella'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith o gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor o ddata gofalwyr di-dâl yn cael eu rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; ac
ch) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
Hefyd, rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Ionawr. Yn dilyn gwelliannau i'r Bil sydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Memorandwm Atodol pellach ar y Bil. Gan fod disgwyl i drafodion y Cyfnod Adrodd gael eu cynnal heddiw, nododd y Pwyllgor Busnes na fyddai’n bosibl mwyach i’r Senedd wneud penderfyniad ystyrlon ar gydsyniad mewn perthynas â’r gwelliannau diweddaraf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â gosod dyddiad terfyn i bwyllgorau'r Senedd gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol diweddaraf, ond nododd fod pwyllgorau'n parhau i allu trafod a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol pe baent yn dewis hynny.